Pan fydd pobl yn darllen y copi ar eich gwefan,
beth y maent yn ei feddwl?
"Rwtsh rwtsh rwtsh, yr un hen sbwriel.
Dw i'n credu af i neud paned o goffi."
Oni bai eich bod yn gwerthu coffi, mae'n
siwr nad dyna oedd yr ymateb yr oeddech
yn dymuno ei gael.
Er mwyn cael yr ymateb iawn, mae angen
gwegopi arnoch sy'n sionc ac yn hawdd i'w
ddarllen. Ond mae llawer o sefydliadau yn
anwybyddu hyn. Maent yn gwario amser ac
arian ar wefan sy'n edrych yn dda, ac yna'n
ei llenwi â chopi diflas a gopïwyd
o adroddiad marchnata. Camgymeriad mawr.
Dylai o leiaf eich tudalen gartref a thudalennau
allweddol eraill gael eu llunio gan berson
proffesiynol. Does dim raid i hyn gostio
ffortiwn, ond gallai stopio pobl rhag clicio
allan o'ch safle yr un mor gyflym â
chlicio i mewn.
Mae gennym dîm o awduron a newyddiadurwyr
profiadol sy'n gallu helpu. Gallant fynd
i'r afael ag amrywiaeth eang o bynciau
ac addasu eu harddull er mwyn gweddu i'ch
marchnad, ac ysgrifennu copi gwreiddiol
neu ail-ysgrifennu eich testun presennol.
|