Mae addasu gwefan ar gyfer marchnad newydd
yn golygu mwy na dim ond cyfieithu'r copi.
Rhaid i'r cynnwys hefyd fod wedi'i 'leoleiddio'
i gyd fynd â dymuniadau a diwylliant
y farchnad darged.
Mae lleoleiddio'n golygu addasu pob agwedd
o wefan, o arddull gyffredinol y copi hyd
at yr arian cyfredol, mesuriadau ac atalnodi.
Gallai olygu hefyd ddileu darnau o'r cynnwys
sydd ddim yn berthnasol i'r farchnad newydd
a chael rhywbeth mwy addas yn eu lle. Elfennau
eraill y gallai fod angen eu newid yw manylion
cysylltu, cysylltiadau a chyfeirnodau.
Mae gan ein tîm rhyngwladol brofiad
o leoleiddio holl elfenau gwefan er mwyn
sicrhau ei fod yn cyfarfod ag anghenion
eich cwsmeriaid ac yn creu yr effaith mwyaf.
|