Rydym yn cynnig tri phecyn gwe-farchnata er
mwyn cael rhagor o ymweliadau â'ch gwefan
o'r holl brif farchnadoedd Ewropeaidd ac America:
Pecyn geiriau allweddol
Gwneud y mwyaf o'ch geiriau ac ymadroddion
allweddol er mwyn gwella lle eich gwefan
ar Google a pheiriannau chwiliomawr eraill.
Gallwn ddarparu'r gwasanaeth hwn yn Saesneg,
Ffrangeg, Almaeneg, Sbaeneg, Iseldireg ac
Eidaleg.
Pecyn peiriant chwilio
Amrywiaeth eang o wasanaethau er mwyn cael
y lle gorau i'ch gwefan ar beiriannau chwilio.
Mae'r pecyn yn hyblyg a gall gynnwys unrhyw
rai o'r canlynol:
- gwneud y mwyaf o'ch geiriau allweddol
- cyflwyniadau i beiriannau chwilio a
rhestrau cyfeirio
- rhaglen strwythuredig i wella poblogrwydd
cysylltiadau
- rheoli hysbysebu 'talu fesul clic' yn
strategol
- dadansoddi ac adolygu eich ystadegau
gwe
- argymhellion technegol er mwyn sicrhau
bod eich gwefan yn 'beiriant chwilio gyfeillgar'
Pecyn gwe-farchnata
Pecyn gwe-farchnata wedi'i deilwra sy'n
cynnwys amrywiaeth o fesurau i gynyddu amlygrwydd
ac effeithiolrwydd eich gwefan. Gallai'r
pecyn gynnwys:
- gwneud y mwyaf o beiriannau chwilio
- erthyglau a datganiadau i'r wasg ar
gyfer gwe-gylchgronau a chyhoeddiadau
printiedig
- cyd-drafod partneriaethau marchnata
strategol
- hyrwyddiadau ar y we, hysbysebu
|