E-bost Tudalen Gartref français | español | deutsch | english | italiano | nederlands  
The Final Word: our team

Gwasanaeth un stop newydd

Mewn ymateb i anghenion cleientau, mae The Final Word wedi partneru gyda chwmni datblygu gwefannau o Gaerdydd, Fat Boy New Media Publishing, er mwyn cynnig gwasanaeth dylunio gwefannau creadigol a chynnal a gwe-letya.

...mwy

Gwasanaethau
Arbenigedd:
  Sectorau
  Ieithoedd
  Ein tîm
Gwerthoedd craidd
Ein cleientiaid
Cyfleoedd

Cysylltwch â ni

Dawn Smith
Rheolwr Olygydd

+44 (0)1269 871919
dawnsmith@final-word.com

Gwefannau’n torri costau

Mae’n 7 gwaith rhatach darparu gwefan i gwsmeriaid yn eu mamiaith na delio gyda’u hymholiadau dros y ffôn.

...mwy


  • Mae Dawn Smith, Rheolwr Olygydd, yn awdur ac yn olygydd ers dros 10 mlynedd  ac mae ganddi brofiad  sylweddol mewn ysgrifennu copi a  chael y gorau o gopi a gyfieithwyd. Cyn dod yn Rheolwr Olygydd The Final Word,  bu’n gweithio i The Times, cylchgronau The Financial Times, Marketing Week ac  i nifer o glientiaid corfforaethol ac yn y sector cyhoeddus yn y DU a thramor.


  • Mae Lynda MacDermott, Pennaeth Marchnata, yn arbenigwr iaith gyda chefndir mewn marchnata yn y DU a marchnata traws-Ewropeaidd, ymchwil i'r farchnad a rheoli. Mae ganddi  fwy na 15 mlynedd o brofiad yn ei maes, yn gweithio yn y DU a thramor. Cyn ymuno â The Final Word bu'n rheoli tîm aml-ieithog yn arbenigo mewn tele-farchnata.


  • Dechreuodd Cheryl Taylor, Golygydd Ymgynghorol, Saesneg/Ffrangeg, ysgrifennu a golygu mwy na 15 mlynedd yn ôl ac mae wedi gweithio i The Daily Telegraph, Live in France, The Financial Times, The Evening Standard, International Living a The Times


  • Mae Caroline van Etten, Uwch Olygydd Cyfieithu, Iseldireg, yn olygydd ddwyieithog Iseldireg/Saesneg sydd wedi gweithio'n helaeth yn y ddwy iaith, yn y sectorau teithio, marchnata ac e-fasnach gan fwyaf. Mae hi hefyd yn rhugl  mewn Ffrangeg ac Eidaleg.


  • Mae Sharon Taylor, Uwch Olygydd Cyfieithu, Almaeneg, yn ieithydd cymwys iawn, ac yn aelod o sefydliad yr ieithyddion, gyda mwy na 10 mlynedd o brofiad cyfieithu a golygu ar lefel uwch. 


  • Mae gan Lesley Hussenbux, Uwch Olygydd Cyfieithu, Sbaeneg, fwy na 10 mlynedd o brofiad fel cyfieithydd, ymgynghorydd a golygydd. Mae hi hefyd yn rhugl ym Mhortiwgëeg, Ffrangeg ac Almaeneg.


  • Mae Martine La Place, Golygydd Cyfieithu, Ffrangeg, yn gyfieithydd a golygydd  dwyieithog Saesneg/Ffrangeg gyda 10 mlynedd o brofiad yn y sectorau corfforaethol a chyhoeddus.



  • Anfonwch E-bost neu ffoniwch ni am bris.




    Cyfreithiol | Preifatrwydd | Cysylltiadau | Newyddion