E-bost Tudalen Gartref français | español | deutsch | english | italiano | nederlands  
The Final Word: language translations

Gwasanaeth un stop newydd

Mewn ymateb i anghenion cleientau, mae The Final Word wedi partneru gyda chwmni datblygu gwefannau o Gaerdydd, Fat Boy New Media Publishing, er mwyn cynnig gwasanaeth dylunio gwefannau creadigol a chynnal a gwe-letya.

...mwy

Gwasanaethau:
  Cyfieithu
  Lleoleiddio
  Ysgrifennu copi
  Gwe-farchnata
Arbenigedd
Gwerthoedd craidd
Ein cleientiaid
Cyfleoedd

Cysylltwch â ni

Dawn Smith
Rheolwr Olygydd

+44 (0)1269 871919
dawnsmith@final-word.com

Gwefannau’n torri costau

Mae’n 7 gwaith rhatach darparu gwefan i gwsmeriaid yn eu mamiaith na delio gyda’u hymholiadau dros y ffôn.

...mwy


Mae ein tîm talentog yn cyfieithu i'w mamiaith yn unig. Maent yn grwp o bobl broffesiynol cymwys a phrofiadol iawn.

Nid cyfieithu'n slafaidd yn unig y mae ein pobl yn ei wneud. Gallant fod yn greadigol, gan addasu a lleoleiddio'r testun er mwyn gweddu i'ch dewis farchnad.

Maent hefyd yn bobl gydag ystod eang o ddiddordebau. Wrth roi eich gwaith i un o'n tîm, rydym yn dewis rhywun sydd â gwybodaeth am y maes ac â diddordeb gwirioneddol yn y pwnc. Drwy wneud hynny, maent yn cynhyrchu eu gwaith gorau.

Ar ôl i'r testun gael ei gyfieithu, bydd ein uwch olygyddion cyfieithu yn edrych drosto er mwyn sicrhau nad yw'r ansawdd byth yn llithro. Gallwn hefyd olygu a chael y gorau allan o gyfieithiad ganddoch chi.

Cliciwch yma am fwy o fanylion.


Mewnosod copi

Yn wahanol i gwmnïau eraill sy'n delio â chyfieithu yn unig, mae gennym y gallu technegol i fewnosod y cynnwys gorffenedig ar i'ch gwefan.

O'r cychwyn cyntaf, byddwn yn cyfieithu neu'n ysgrifennu i gydweddu â chynllun eich gwefan. Rydym yn poeni cymaint â chi am sut y bydd yn edrych ar y sgrîn.

Yna bydd ein pobl brofiadol yn mewnosod testun yn syth i mewn i'ch gwefan neu weithio drwy eich system rheoli cynnwys (CMS). Os nad oes gennych CMS ond yn teimlo y byddech yn elwa o gael y math hon o system, mae gennym gwmni partner a allai ddarparu un i chi.

Wrth gwrs, os byddai'n well gennych drefnu mewnosod y cynnwys eich hun, gallwn ddarparu'r testun craidd mewn fformat addas.


Anfonwch E-bost neu ffoniwch ni am bris.




Cyfreithiol | Preifatrwydd | Cysylltiadau | Newyddion